#

Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd  Yr UE: Coflenni Deddfwriaethol Allweddol

 

 

Mae'r papur hwn yn nodi:

§  Coflenni allweddol yr UE sydd yn rhan o broses ddeddfwriaethol yr UE ar hyn o bryd ac sydd o ddiddordeb i'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd.

§  Meysydd gwaith newydd a nodir gan Raglen Waith 2015 y Comisiwn Ewropeaidd ac sydd o ddiddordeb i'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd.

§  Coflenni deddfwriaethol allweddol y cytunwyd arnynt yn barod ar lefel yr Undeb Ewropeaidd sydd bellach yn y cam gweithredu cenedlaethol, ac sydd o ddiddordeb i'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd.

Byddwn yn llunio cyfres o ymgynghoriadau ffurfiol ac anffurfiol ynghylch y meysydd a nodwyd yn y papur hwn dros y 12 mis nesaf, a byddwn yn gofyn i randdeiliaid yng Nghymru am eu sylwadau. Y tu hwnt i'r ymgynghoriad arfaethedig hwn, pe hoffech gysylltu â'r Pwyllgor ynghylch y materion a nodwyd yn y papur hwn, neu ynghylch materion amaethyddol neu amgylcheddol eraill sy'n ymwneud â'r UE ac sydd o bwys i chi, byddem yn croesawu eich sylwadau. Gallwch gysylltu â'r Pwyllgor drwy e-bost: SeneddAmgylch@Cynulliad.Cymru

Bydd y papur hwn yn cael ei ddiweddaru wrth i waith yn y meysydd a nodwyd fynd yn ei flaen.

1.       Ffyrdd o weithio ar faterion yr UE

Bydd datblygiadau pwysig yn Ewrop a allai fod â goblygiadau sylweddol i Gymru yn ystod y 18 mis nesaf. Mae'n bwysig i'r Pwyllgor gadw ochr yn ochr â'r datblygiadau hyn ac unrhyw faterion eraill sy'n dod i'r amlwg, ac i ymgysylltu'n effeithiol â sefydliadau Ewrop yn ôl yr angen – yn yr un modd ag y mae wedi gwneud eisoes ar faterion fel diwygio'r Polisi Amaethyddol Cyffredin a'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin.

Yn unol â'r drefn o dan y Senedd Ewropeaidd flaenorol (2009-2014), bydd datblygu cysylltiadau cryf gyda phwyllgorau perthnasol a'r rapporteurs priodol ynghylch coflenni sydd o bwys arbennig i Gymru yn hanfodol o ran cynnal lefel o ddylanwad yn Ewrop. Mae'r Pwyllgor yn ymwybodol o'r pwysau sydd arno o ran ymgymryd â gwaith craffu deddfwriaethol, a fydd yn golygu y bydd yr amser sydd ar gael iddo wneud mathau eraill o waith craffu yn gyfyngedig.

I ymdopi â'r sefyllfa hon, mae'r Pwyllgor wedi penderfynu parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid drwy ohebu â hwy er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o ddatblygiadau ar lefel Ewropeaidd ac er mwyn cael eu sylwadau.  Unwaith y bydd y dystiolaeth yn dod i law, byddwn yn ei defnyddio i godi unrhyw bryderon sydd gan randdeiliaid gyda sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd. Gall adborth gan randdeiliaid a chysylltiadau Ewropeaidd hefyd lywio'r broses o graffu ar waith Gweinidogion Cymru, naill ai'n uniongyrchol yn ystod sesiynau craffu cyffredinol neu drwy ohebiaeth.

 

 

2.       Cynigion deddfwriaethol drafft sy'n mynd drwy'r weithdrefn ddeddfwriaethol arferol (cyd-benderfyniad)

 

Mae'r adran a ganlyn yn rhestru cynigion deddfwriaethol yr UE sydd o ddiddordeb i'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd. Mae'r tabl ar ddiwedd yr Adran hon yn cynnwys crynodeb o'r trafodaethau a gynhaliwyd ar y coflenni hyd yn hyn ac yn rhoi syniad o'r camau y mae'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn gobeithio eu cymryd mewn perthynas â'r cynigion. Ceir nodiadau atgoffa defnyddiol ar sut mae proses ddeddfwriaethol Senedd Ewrop yn gweithio ar wefan y Senedd yma.

 

§  Rheoliad rhwydi drifft - COM(2014)265

Cyhoeddwyd y cynigion ym mis Mai 2014. Byddai'r cynnig yn gwahardd defnyddio rhwydi drifft o bob math yn nyfroedd yr Undeb Ewropeaidd.  Mae rhagor o wybodaeth am y goblygiadau i Gymru ar gael yn Niweddariad Polisi’r Undeb Ewropeaidd ar y cynnig.

 

§  Cynhyrchu organig a labelu cynnyrch organig - COM(2014)180

Cyhoeddwyd y cynigion ym mis Mawrth 2014.  Mae'r cynigion yn diwygio'r rheoliadau cyfredol sy'n berthnasol i'r broses o ardystio a rheoli'r sector organig.  Mae rhagor o wybodaeth am y goblygiadau i Gymru ar gael yn Niweddariad Polisi’r Undeb Ewropeaidd ar y cynnig. Mae Rhaglen Waith y Comisiwn ar gyfer 2015 yn awgrymu os na ellir dod i gytundeb ar y cynigion hyn o fewn chwe mis, byddant yn cael eu tynnu yn ôl o blaid cynigion newydd i'r sector.

 

 

 

 

 

 

§  Deunydd pacio a gwastraff deunydd pacio (lleihau’r defnydd o fagiau plastig ysgafn yn yr Undeb Ewropeaidd) - COM(2013)761

Cyhoeddwyd y cynigion ym mis Tachwedd 2013.  Bydd y cynigion yn diwygio Cyfarwyddeb 94/62/EC ar ddeunydd pacio a gwastraff deunydd pacio i'w gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau gymryd camau i leihau'r defnydd o fagiau plastig dan 50 micron mewn pwysau.

 

§  Pecyn Iechyd Anifeiliaid ac Iechyd Planhigion - COM(2013)260, COM(2013)267, COM(2013)265

Cyhoeddwyd y cynigion ym mis Mai 2013. Mae'r pecyn yn cynnwys tri chynnig ar newidiadau i'r cyfundrefnau rheoleiddio presennol ar iechyd anifeiliaid, iechyd planhigion, a rheolaethau swyddogol ar gyfer diogelwch bwyd. Mae'r pecyn yn anelu at gydgrynhoi 70 darn presennol o ddeddfwriaeth yn destunau unedig, symlach. Ceir rhagor o wybodaeth am fanylion y cynigion unigol ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.

 

 

§  Pecyn Polisi Aer Glân: COM(2013)919,

Cyhoeddwyd pecyn o gynigion deddfwriaethol yn wreiddiol ym mis Rhagfyr 2013, gan gynnwys dwy gyfarwyddeb ddrafft. Bwriad y Cyfarwyddebau hyn oedd gweithredu’r amcanion a nodir yn Strategaeth Thematig yr Undeb Ewropeaidd ar Lygredd Aer. Fel rhan o'i Raglen Waith ar gyfer 2015, mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi cyhoeddi mai dim ond un o'r Cyfarwyddebau drafft gaiff ei datblygu, sef COM(2013)919, sy'n cyfyngu ar allyriadau llygryddion penodol i'r aer o weithfeydd hylosgi canolig. Bydd yn ei gwneud yn ofynnol ar Aelod-wladwriaethau reoleiddio allyriadau o ffatrïoedd sydd â rhwng 1 a 50MW o fewnbwn thermol wedi'i fesur. Mae Cyfarwyddebau cyfredol yn cwmpasu ffatrïoedd â thros 50MW o fewnbwn thermol wedi'i fesur yn unig. Bydd agweddau eraill ar y cynnig yn cael eu datblygu drwy'r trafodaethau sy'n mynd rhagddynt a thrwy'r trafodaethau a gynhelir ar Becyn Newid Hinsawdd 2030.

 

 

 

 


Tabl 1: Coflenni allweddol

Coflen

 

Cam cyfredol

 

Dyddiadau a gweithredoedd allweddol

Rheoliad ar wahardd rhwydi drifft

 

Senedd Ewrop: Dan drafodaeth yn y Pwyllgor Pysgodfeydd – Adroddiad drafft yn cael ei baratoi gan y rapporteur Renata Brianco S&D. 

Cyngor: Yn paratoi ei Ymagwedd Gyffredinol (ei safbwynt cyd-drafod) gyda thrafodaethau ar lefel gweithgor technegol swyddogol.  Dim arwydd eto pryd y bydd yn cael ei drafod yn ffurfiol yng Nghyngor y Gweinidogion.

 

 

Disgwylir y darlleniad cyntaf yn Senedd Ewrop ar 25.2.15. Cyn hynny, disgwylir i adroddiad drafft gael ei gyflwyno i Bwyllgor Pysgodfeydd Senedd Ewrop ym mis Ionawr 2015.

Camau arfaethedig

Fel Pwyllgor, rydym yn bwriadu ymgynghori â rhanddeiliaid yn ystod yr wyth wythnos nesaf, ac yn bwriadu ysgrifennu at y Sefydliadau Ewropeaidd, gan amlinellu ein canfyddiadau.

Cynhyrchu a labelu organig

 

Senedd Ewrop: Dan drafodaeth yn y Pwyllgor Amaethyddiaeth  - Adroddiad drafft yn cael ei baratoi gan y rapporteur Martin Hausling, Gwyrddion/ALE.

Cyngor: Cynhaliwyd trafodaethau ar 24.3.14 a 14.7.14, ac mae’r ymagwedd gyffredinol yn cael ei pharatoi ar hyn o bryd.  Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi rhoi chwe mis i'r Cyngor ac i Senedd Ewrop gytuno ar goflen ddiwygiedig, neu bydd y cynigion fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd yn cael eu rhoi o'r neilltu. .

 

 

Cynhaliwyd gwrandawiad cyhoeddus gan Bwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig Senedd Ewrop ar 3.12.2014. Dyddiad dangosol ar gyfer y darlleniad cyntaf yn Senedd Ewrop: 8.6.15.

Camau arfaethedig

Cynhaliodd y Pwyllgor sesiynau tystiolaeth ar y cynnig hwn ar 13 Tachwedd. Rydym yn y broses o ysgrifennu at Aelodau Pwyllgor Amaethyddiaeth Senedd Ewrop, Aelodau Cymru o Senedd Ewrop a'r Comisiwn Ewropeaidd ynghylch ein canfyddiadau.

Gwastraff deunydd pacio (Bagiau plastig)

 

Senedd Ewrop: Cytunwyd ar safbwynt y darlleniad cyntaf - aros am drafodaethau gyda’r Cyngor. 

Cyngor: Wrthi’n paratoi Ymagwedd Gyffredinol, ond wedi cyrraedd cytundeb gwleidyddol eang.

 

 

Dim dyddiad dangosol ar gyfer yr ail ddarlleniad yn Senedd Ewrop.

Camau arfaethedig

Mae'r Pwyllgor yn bwriadu parhau i fonitro ac olrhain y goflen hon er mwyn cael eglurhâd o unrhyw oblygiadau posibl i Gymru. Byddwn yn mynd ar drywydd y mater hwn yn benodol drwy graffu ar waith Gweinidogion Cymru.

 

 

 

 

 

 


 

Pecyn Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion 

 

Senedd Ewrop: Mae’r Senedd wedi mabwysiadu safbwyntiau darlleniad cyntaf ar yr holl Becynnau, ond roedd hynny cyn ffurfio'r Senedd newydd, sy'n golygu y gallent gael eu hailagor.

Cyngor: Yn ceisio cytundeb ar y darlleniad cyntaf.

 

Yn aros am y darlleniad cyntaf yn y Cyngor.

Camau arfaethedig

Mae'r Pwyllgor yn bwriadu parhau i fonitro ac olrhain y goflen hon er mwyn egluro unrhyw oblygiadau posibl i Gymru. Byddwn yn mynd ar drywydd y mater hwn yn benodol drwy graffu ar waith Gweinidogion Cymru.

 

 

Pecyn Ansawdd Aer

 

Senedd Ewrop: Dan drafodaeth gan Bwyllgor yr Amgylchedd, Iechyd Cyhoeddus a Diogelwch Bwyd. Adroddiadau drafft ar y ddau gynnig yn cael eu paratoi gan y rapporteurs Julie Girling, ECR ac Andrzej Grzyb, EPP.

Cyngor: Heb fabwysiadu safbwynt eto - cynhaliwyd trafodaeth gyffredinol yn y Cyngor ar 16.6.14 ac mae gwaith yn cael ei gynnal ar lefel swyddogol mewn gweithgorau technegol.

 

 

Senedd Ewrop heb bennu dyddiad y darlleniad cyntaf eto. 

Camau arfaethedig

Rydym yn gobeithio ymgynghori â rhanddeiliaid o Gymru ar y goflen hon yn ystod hanner cyntaf 2015.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

3.       Rhaglen Waith y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer 2015.  Meysydd Newydd

 

Cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd ei Raglen Waith ar gyfer 2015 ar 16 Rhagfyr 2014. Fel y nodwyd yn Adran 2, tynnodd y Comisiwn Ewropeaidd rai cynigion a gyhoeddwyd gan ei ragflaenydd yn ôl, ond cyhoeddodd feysydd gwaith newydd ar gyfer 2015 hefyd.  Er bod rhai cynigion wedi'u tynnu yn ôl yn llwyr, bydd eraill yn cael eu disodli gan gynigion newydd ar yr un themau. Er enghraifft, er bod cynigion y Comisiwn blaenorol ar Becyn Gwastraff wedi'u tynnu yn ôl, mae'r Rhaglen Waith yn datgan y bydd pecyn newydd ar yr economi gylchol sydd yn fwy uchelgeisiol yn cael ei gyflwyno yn 2015. Yn ogystal, mae yna bedwar maes gwaith cwbl newydd a allai fod o ddiddordeb i'r Pwyllgor, pan fydd rhagor o fanylion ar gael yn eu cylch. Mae'r meysydd hyn fel a ganlyn:

§  Cynigion i adolygu'r broses awdurdodi ar gyfer Organeddau a Addaswyd yn Enynnol (GMOs);

§  Cynigion ar gyfer Fframwaith Strategol newydd ar yr Undeb Ynni;

§  Gohebiaeth ar amcanion yr UE ar gyfer trafodaethau newid hinsawdd byd-eang 2015 a gynhelir ym Mharis; a

§  Gohebiaeth ar sefydlu safbwynt cyffredin i'r UE ar gyflwyno amcanion datblygu cynaliadwy byd-eang.

Yn ogystal ag amlinellu meysydd gwaith newydd ar gyfer 2015, mae Rhaglen Waith y Comisiwn yn cynnwys rhestr o ddogfennau a phecynnau deddfwriaethol a fydd yn destun adolygiad effeithiolrwydd yn 2015. Bydd cynnwys a chanlyniadau'r adolygiadau o ddiddordeb yn cael eu hadolygu'n barhaus gan y Pwyllgor. Mae'r rhain yn cynnwys:

§  Adolygiad o'r rheoliadau ar gyfer labelu cig eidion a chyfraith bwyd ehangach; ac

§  Adolygiadau o effeithiolrwydd Cyfarwyddebau ar Atebolrwydd Amgylcheddol, Adar a Chynefinoedd, Sŵn Amgylcheddol ac Asesiadau Amgylcheddol Strategol.

4.       Gweithredu coflenni allweddol

Ers dechrau'r Cynulliad hwn mae nifer o ddarnau allweddol o ddeddfwriaeth wedi cael eu mabwysiadu gan yr Undeb Ewropeaidd.  Mae'r cyfrifoldeb am weithredu'r rhain yn effeithiol o fewn yr amserlenni gofynnol a bennir gan y ddeddfwriaeth yn awr yn gorwedd gyda Llywodraeth Cymru mewn perthynas â Chymru.  Mae rhai darnau o ddeddfwriaeth hŷn yr Undeb Ewropeaidd lle mae angen bodloni targedau, gofynion a therfynau amser yn ystod y flwyddyn a ddaw, ac yn bwysig, mae rhai meysydd lle mae angen i Lywodraeth Cymru gymryd camau brys i weithredu cyfraith gyfredol Ewrop yn llawn er mwyn osgoi achosion o dordyletswydd.  Mae'r Pwyllgor yn bwriadu monitro'n ofalus y cynnydd a wneir gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r materion hyn. Bydd yn mynd ar drywydd unrhyw faterion sy'n dod i'r amlwg wrth graffu ar waith Gweinidogion Cymru.

§  Gweithredu'r Polisi Amaethyddol Cyffredin

Daw’r Polisi Amaethyddol Cyffredin newydd i rym o fis Ionawr 2015. Bu gofyn eisoes i Lywodraeth Cymru roi gwybod i'r Comisiwn am ei phenderfyniadau mewn perthynas â Cholofn 1, ac mae wedi cyflwyno Cynllun Datblygu Gwledig drafft i'w gymeradwyo.  Nawr, bydd angen iddi sicrhau bod ganddi systemau talu a chydymffurfio newydd ar waith ar gyfer y ddwy golofn, prosesau apelio a mapio, a strwythurau cyfathrebu digonol. Mae angen cytuno ar drefn drawsgydymffurfio newydd a’i sefydlu, a bydd angen sicrhau bod Taliadau Gwledig Cymru ar-lein yn gweithredu’r broses ymgeisio newydd yn effeithiol.

§  Gweithredu'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin

Mae'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin newydd wedi bod mewn grym ers mis Ionawr 2014, gydag elfennau newydd y polisi yn dod i rym dros amser. Bydd un o elfennau allweddol y broses ddiwygio, y gwaharddiad ar daflu pysgod yn ôl i'r môr, yn dod i rym ym mis Ionawr 2015, a Llywodraeth Cymru fydd yn gyfrifol am ei weithredu ym mharth pysgodfeydd Cymru.  Yn ogystal, mae angen datblygu deddfwriaeth ddomestig i ddarparu mesurau rheoli a mesurau technegol diwygiedig a systemau newydd o ddyrannu a rheoli cwotâu. Bydd disgwyl i Lywodraeth Cymru gyfrannu at gynlluniau môr rhanbarthol ar gyfer rheoli pysgodfeydd, yn ogystal â chyfrannu at gynllun strategol cenedlaethol amlflwydd y Deyrnas Unedig ar ddyframaeth. Yn ogystal, bydd yn gyfrifol am ddosbarthu Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop yng Nghymru.

§  Cyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol

Mae'r Gyfarwyddeb yn ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau sicrhau bod eu moroedd yn cyflawni Statws Amgylcheddol Da erbyn 2020. Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am sicrhau bod y Statws yn cael ei gyflawni yn nyfroedd Cymru.  Er mwyn sicrhau bod nodau 2020 yn cael eu cyrraedd, mae’r Gyfarwyddeb yn nodi nifer o amcanion a thargedau interim.  Mae'r rhain yn cynnwys y bydd Llywodraeth Cymru wedi datblygu ac wedi ymgynghori ar raglen o fesurau a chamau gweithredu i gyflawni’r Statws.  Mae angen i'r rhaglen hon fod yn ei lle er mwyn bod yn weithredol o 2016 ymlaen.

§  Rhywogaethau goresgynnol estron

Mae'r Rheoliad yn ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau fabwysiadu nifer o fesurau gwyliadwriaeth, monitro a rheoli mewn perthynas â rhestr o 50 o rywogaethau estron sy'n peri'r pryder mwyaf i'r UE. Mae'r cyfrifoldeb dros weithredu'r Rheoliad yng Nghymru yn nwylo Llywodraeth Cymru.

§  Y Pecyn Llaeth

Mae'r Pecyn Llaeth wedi bod ar waith ers mis Hydref 2012.  Mae'n rhoi pwerau i Aelod-wladwriaethau/rhanbarthau gyflwyno deddfwriaeth ddomestig ar gontractau ysgrifenedig rhwng cynhyrchwyr a phroseswyr, yn caniatáu rhywfaint o negodi ar y cyd ar gontractau rhwng sefydliadau cynhyrchwyr a phroseswyr ac yn gwella tryloywder yn y farchnad. Nid yw Cymru wedi dewis defnyddio'r pwerau hyn hyd yma, ond gall ddewis gwneud hynny yn dilyn yr adolygiad annibynnol o'r diwydiant a gomisiynwyd gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd. Daw cwotâu llaeth i ben yn 2015, a bydd yn rhaid i Aelod-wladwriaethau baratoi ar gyfer y newid hwn.

§  Cydymffurfiaeth a thorri cyfraith

Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi rhoi gwybod i Lywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru o'i fwriad i gychwyn achosion troseddol am fethu â diogelu llamhidyddion harbwr o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd, a'r methiant i leihau allyriadau o weithfeydd pŵer Aberddawan. Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi rhoi dau fis i’r Deyrnas Unedig/Cymru ymateb cyn iddo gyfeirio'r materion i Lys Cyfiawnder Ewrop.  Mae'r Pwyllgor wedi ysgrifennu at y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd ar y mater hwn.